Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2019
Amser:
08.30 -
09.43
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Yn dilyn cynnig a basiwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Ebrill a oedd yn atal Gareth Bennett o drafodion y Cynulliad am gyfnod o saith diwrnod calendr, gan ddechrau ddoe, dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes na fydd yn galw Aelod arall o UKIP i ofyn Cwestiynau'r Arweinwyr yn ei le heddiw.
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 22 Mai 2019 –
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2017-18 (30 munud)
· Dadl ar Ddeiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth (60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud)
Cais i drefnu dadl ar NNDM7031
Dychwelodd y Rheolwyr Busnes at eu trafodaeth ar 2 Ebrill ynghylch amserlennu dadl ar NNDM7031, a oedd yn galw ar yr Ysgrifennydd Parhaol, yn gweithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i baratoi, at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol ym mis Tachwedd 2017.
Nododd y Rheolwyr Busnes fod y Prif Weinidog, ar 4 Ebrill, wedi cyhoeddi datganiad, mewn ymateb i ddyfarniad yr Uchel Lys, yn nodi ei fwriad i gyhoeddi adroddiad yr 'ymchwiliad datgelu gwybodaeth' ar ôl cwest y crwner. Yng ngoleuni'r datganiad hwnnw, penderfynodd y Rheolwyr Busnes beidio ag amserlennu'r ddadl NNDM, gan gredu y byddai'r datganiad wedi mynd i'r afael â'r materion a godir yn y cynnig.
Nododd y Rheolwyr Busnes y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma a bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cael gwybod am y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a gofynnwyd i swyddogion ddrafftio nodyn o opsiynau i'w hystyried yn eu cyfarfodydd grŵp priodol yn ddiweddarach y bore yma.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i newid cyfran yr amser a ddyrennir yn y Cyfarfod Llawn i'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru ac UKIP i 12:10:3 yn y drefn honno.
Trafododd y Rheolwyr Busnes gynigion y Llywydd ar gyfranogiad UKIP yn y dyfodol i Gwestiynau Arweinwyr a Llefarwyr. Dywedodd y Llywydd y byddai'n ystyried y safbwyntiau a fynegwyd cyn gwneud penderfyniad.
Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.
Pwyllgor Safonau - Gareth Bennett
Cyn y Pasg, cymeradwyodd y Cynulliad argymhelliad y Pwyllgor Safonau y dylid dileu Gareth Bennett o fod yn aelod o'r Pwyllgor hwnnw am weddill y Cynulliad hwn. Disgwylir i'r Pwyllgor gwrdd nesaf ar 14 Mai, ac felly byddai angen gwneud unrhyw newid yr wythnos hon neu'r wythnos nesaf er mwyn iddo gael effaith mewn pryd.
Penderfynodd y Rheolwyr Busnes y dylid rhoi cyfle i UKIP enwebu aelod newydd a gofynnodd i'r grŵp gyflwyno enw erbyn cyfarfod yr wythnos nesaf.